Mae’r adnoddau hyn wedi’u dylunio i’w defnyddio yn yr ysgol a gartref ac yn hawdd eu canfod ar gyfer gweithwyr addysgu proffesiynol, yn ogystal â rhieni a gofalwyr sy’n dymuno cefnogi dysgu eu plant.
Mae’r holl adnoddau wedi’u datblygu gyda chymorth ac arbenigedd athrawon ac arbenigwyr cwricwlwm a’u mapio i Gwricwlwm i Gymru gyda chanllawiau ategol.