Croeso i ‘Fflic a Fflac’!
Byd o adnoddau i gefnogi ymgysylltiad, dysgu a mwynhad y Gymraeg ar gyfer eich plentyn. Mae’r holl adnoddau wedi’u datblygu gyda chymorth ac arbenigedd athrawon ac arbenigwyr cwricwlwm a’u mapio i Gwricwlwm i Gymru.
Byd o adnoddau i gefnogi ymgysylltiad, dysgu a mwynhad y Gymraeg ar gyfer eich plentyn. Mae’r holl adnoddau wedi’u datblygu gyda chymorth ac arbenigedd athrawon ac arbenigwyr cwricwlwm a’u mapio i Gwricwlwm i Gymru.
Mae cyfres ‘Fflic a Fflac’ yn cynnwys pedwar pecyn amlgyfrwng cynhwysfawr (anhawster cynyddol), pedwar set o lyfrau darllen ychwanegol, caneuon, gemau i hwyluso amser chwarae ar dabled neu ffôn, ac wrth gwrs, dau byped hoffus o’r enw ‘Fflic’ a ‘Fflac’! Mae’r pypedau’n seiliedig ar y ddau gymeriad sy’n cael sylw yn y llyfrau a’r fideos ac mae acenion gwahanol gyda nhw – mae Fflic yn dod o ogledd Cymru ac mae Fflac yn dod o dde Cymru.
Mae Cwricwlwm i Gymru yn nodi’r canlynol:
Nod ‘Fflic a Fflac’, felly, yw rhoi hyder i ddysgwyr ac ymarferwyr i ddefnyddio’r Gymraeg a rhoi’r gallu iddynt gyfathrebu yn Gymraeg bob dydd. Mae’n darparu cyfleoedd i blant 3–7 oed ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’ o fewn y cwricwlwm – Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg – ac yn annog defnydd o’r Gymraeg mewn gweithgareddau trawsgwricwlaidd bob dydd.
Yn ogystal â'r adnoddau digidol ar ein gwefan, yma gallwch chi brynu pypedau, copïau caled o'r llyfrau, ac adnoddau dysgu ac addysgu eraill i'w defnyddio yn yr ysgol a gartref.